Numbers 24

1Erbyn hyn roedd Balaam yn gweld fod yr Arglwydd am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch. 2Pan edrychodd dyma fe'n gweld Israel wedi gwersylla bob yn llwyth. A dyma Ysbryd Duw yn dod arno. 3A dyma fe'n cyhoeddi'r neges yma:

“Dyma neges Balaam fab Beor;
proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.
4Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad,
ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo.
Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
5Mae dy bebyll di mor hardd, Jacob;
ie, dy wersylloedd, O Israel.
6Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter,
ac fel gerddi ar lan afon.
Fel perlysiau wedi eu plannu gan yr Arglwydd,
neu goed cedrwydd ar lan y dŵr.
7Bydd ganddyn nhw ddigon o ddŵr i ddyfrio'r tir,
a bydd eu disgynyddion fel dyfroedd di-baid.
Bydd eu brenin yn fwy nac Agag,
24:7 Agag Un o frenhinoedd enwocaf yr Amaleciaid, oedd yn elynion i Israel (gw. Exodus 17:8-16).

a'i deyrnas wedi ei dyrchafu'n uchel.
8Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;
mae e'n gryf fel ych gwyllt.
Byddan nhw'n dinistrio gwledydd eu gelynion –
yn torri eu hesgyrn yn ddarnau,
a'u saethu gyda saethau.
9Mae Israel yn gorffwys fel llew,
neu lewes – pwy sy'n meiddio tarfu arno?
Bydd y sawl sy'n dy fendithio yn profi bendith,
a'r sawl sy'n dy felltithio dan felltith!”

10Roedd y brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi eu bendithio nhw dair gwaith! 11Well i ti ddianc am adre! Dos! Ro'n i wedi dweud y byddwn i'n dy dalu di'n hael, ond gei di ddim byd! Ar yr Arglwydd mae'r bai am hynny!” 12A dyma Balaam yn ateb, “Ro'n i wedi dweud wrth dy swyddogion di, 13‘Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrtho i. Alla i ddim gwneud da na drwg ohono i fy hun, dim ond dweud beth mae'r Arglwydd yn ei roi i mi.’

Neges olaf Balaam

14“A nawr dw i'n mynd yn ôl adre at fy mhobl. Ond cyn i mi fynd, gad i mi dy rybuddio di beth mae pobl Israel yn mynd i'w wneud i dy bobl di yn y dyfodol.” 15A dyma fe'n rhoi'r neges yma:

“Dyma neges Balaam fab Beor;
proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.
16Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad,
yn gwybod beth mae'r Goruchaf yn ei wneud,
ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo.
Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
17‘Dw i'n ei weld, ond fydd hyn ddim nawr;
dw i'n edrych arno, ond mae'n bell i ffwrdd.
Bydd seren yn dod allan o Jacob,
teyrnwialen yn codi yn Israel.
Bydd yn dinistrio ffiniau pellaf Moab
a'r mynyddoedd ble mae plant Seth yn byw.
18Bydd yn concro Edom hefyd;
fe fydd piau mynyddoedd Seir.
Bydd Israel yn mynd yn ei blaen yn ddewr.
19Bydd brenin yn codi yn Jacob,
ac yn dinistrio pawb sydd ar ôl yn Ir.’”

20Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma:

“Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd,
ond dinistr llwyr fydd ei dynged.”

21Yna edrychodd ar y Ceneaid
24:21 Ceneaid Llwyth oedd yn byw yn yr anialwch i'r de o Israel.
a chyhoeddi'r neges yma:

“Ti'n byw mewn lle sydd mor saff;
mae dy nyth yn uchel ar y graig.
22Ond bydd Cain yn cael ei lyncu,
pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.”

23Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma:

“Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn?
24Bydd llongau'n dod o arfordir Cyprus
24:24 arfordir Cyprus Hebraeg, “glannau Cittim”
,
ac yn ymosod ar Asyria ac Eber.
Ond byddan nhw hefyd yn cael eu dinistrio'n llwyr.”

25Yna dyma Balaam yn mynd adre. A dyma'r brenin Balac yn mynd i ffwrdd hefyd.

Copyright information for CYM